Ymddiheuro am yr oedi mewn blogio (gormod o War and Peace a babis fo tonsilitis arnai ofn!) ond isie popio mewn efo update ar yr anturiaethau efo stwff M&S.
Dwi di rhoi amrannau ffals unigol arno am y tro cyntaf… a dwi’n teimlo’n od, mae’n llygaid braidd yn groes ond maen nhw’n eitha widawiw yndydyn?!
Mae na lud bobman yn y llofft ac ar fy wyneb, mae fy tweezers yn sownd wrth eu gilydd, ond mae’r “fiddly but good”s yn ffidli ond yn dda!
Update!
Wedi rhoi cynnig arall ar rhein wythnos diwethaf yn agoriad Yr Hen Lyfrgell (o.n. dwi ddim yn superswanky Caerdydd media type gyda llaw, dwi jyst yn uffernol o jami).
Yr ail dro? Hyd yn oed yn fwy ffidli i roi mlaen – dwi prin yn gallu defnyddio tweezers yn iawn, so tweezers a glud yn krypton factor-esque imi.
Dwi’n joio gwisgo nhw tho, wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth – allai weld sut mae rhai merched yn gallu mynd yn addicted i estyniadau amrannau yn hawdd.
Jyst bod neb yn sbio rhy fanwl, rhain yn llwyddiant, a llwyth o hwyl – bawd lan!
Ciiwt! Nesi drio rhai primark yn gynharach leni (dyn nhw ond punt y pâr). Wedi cael triniaeth laser ar fy llygaid felly’n teimlo isio mentro rywfaint efo colur llygad! A hefyd nawr yn gweld be dwi’n neud. Wedi prynnu cwpwl o palettes o BH cosmetics – un lliwie’r planedau (#colurddyfodoliaeth) ac un smoci. Dim lot o lwyddiant efo’r amrannau hyd yn hyn yn anffodus – o’n i di iwsio olew cnau coco i llnau colur cyn eu gosod, a di’r glud ddim yn gallu sdicio ato. Amser trio eto, rhein yn edrych yn gret!
Gah, Sara ydw i, nid ‘prawf’!