Menywod a Lightsabers

Hia pawb – dwi nôl eto cyn y ‘Dolig ‘ma, yn tapio rw gofnod allan ar y keyboard cyn i bawb gwmpo mewn i coma o stwffin a Lindor. Dwi wir ddim yn 100% beth fydd cynnwys y post ‘ma – fel lot o bethe am atgyfodi’r blog dwi’m yn rili siwr lle dwi’n mynd, ond dowch efo fi!

So, fues i’n gwylio Star Wars nethiwr. A cyn mynd i ‘nunlle, bydd dim spoilers am *redacted*, nac yn sicr am *redacted* so peidiwch cael ffrîc.

rey+finn

Digon i ddeud mod i’n ‘lapsed geek’, a wedi cael pleser aruthrol yn gwylio The Force Awakens – dwi heb deimlo gwefr felna ers blynyddoedd, jyst y pleser pur o brofiad stori wedi’ ddeud yn berfaith yn y ffurf gelfyddydol ore fu erioed. Myfyriwr ffilm o’n i, dwi obvs am ddeud hyna yndydw?

So y ‘lapsed’ bit – dwi wastad wedi bod yn un o’r bobl na sy ddim yn teimlo mod i did gallu bod yn super-fan o unrhyw beth. Alli di byth wbod popeth sydd i wybod am stori, na phopeth am actor neu gomic, ac os nad wyt ti’n gwybod popeth, ti ddim yn ffan “go iawn”. Logic bach yn od, ac un ond mae o di dysgu fi i fod yn ffan bach o lwyth o bethe. Sy’n dilyn felly bod tôn y blog ma am fod bach yn ecclectig.

Cael y bychs sy wedi effeithio ar fy sgiliau nyrdio – mae’n anodd rhoi dy egni i fod yn fan o unrhywbeth pan ma gen ti ddau o dan 3 oed sy’n wych a hyfryd a hilêriys ond nackering tu hwnt. So picio bob hyn a hyn di hi di bod, gwario ffortiwn ar Apple TV rentals a breuddwydio o flaen trailers Youtube. Dwi hyd yn oed wedi methu Spectre a’r cwpl o Marvels diwetha (er, tase Ant-Man wedi bod yn Ant-Man gan Edgar ‘Scott Pilgrim’ Wright bydden i di bod yna fel shot)

Wnes i bwynt o beidio gwylio unrhywbeth am The Force Awakens cyn mynd i’r sinema tho, do’n i ddim isie rhyw ddarlun yn fy mhen cyn mynd. Ges i weld o mewn IMAX 3-D, jiawl lwcus dydw? Allen i di colli’r 3D yn hawdd ond dwi’n ame wyliai popeth mewn IMAX o hyn ymlaen, fel rw wierdo minted.

Mae Star Wars wastad wedi bod yn tynnu fi nôl a nôl – yr antur, y cyffro, y doethineb, grym y tywyllwch – atyniadau cryf i teenager fel oeddwn i yn ar droad y prequels. Mae fy teenager mewnol hefyd yn blydi gwirioni ar Kylo Ren, oni wastad mewn i’r cyneriadau cymhleth tywyll annealadwy yna, chwe thumbs up (a bonws arbennig i’r criw sain, sŵn ei sabre yn fflipin anhygoel – ansefydlog, llifio trwy’r awyr, jyst ffantastic).

kylo-ren_fa163069

SCHHNNAAWBZZZZZZCHHH

‘Doedd tŷ ni byth yn dŷ sci fi, dwi’n credu imi wylio’r drioleg wreiddiol yn y 6ed am y tro cyntaf. A wedyn oni’n hwcd ar yr antur. Unwaith eto, gwelwch, dwi ddim yn hipster fan. A deud y gwir, oedd wastad rhywbeth bach yn off, bach yn ddiarth am y byd yna greodd George Lucas.

A dyna be dwi di sylwi ar ôl gwylio The Force Awkens. Mae na fenywod yna. Doedden nhw ddim yna ynghynt. Wel, di nhw’n amlwg ddim yn TFA lot fawr, ond mae’n nhw yna – yn X-Wing pilot, yn Gapten Stormtroopers, yn ferch ifanc anturus gref, yn General hyd yn oed.

1001589

Pwy sy’n meddwl bod Geneal Leia Organa yn Capten Janeway i’n cenedlaeth ni?

Wrth gwrs, wrth i’r gwrthryfelwyr drafod ymosod ar y Death Star Starkiller Base, dim ond un fenyw oedd yno, General Leia Organa, roedd ei chadfridogion i gyd yn wrywaidd (bach o syndrôm Thatcher fana falle?!). Unigolion o fewn y system yw Capten Phasma, Jess Pava’r peilot a’r prif gymeriad Rey. Hefyd i rai sy wedi gweld y ffilm, a fyse Capten Phasma rîli mor hawdd â hyna i’w pherswadio? Mae Gwendolynne Christie yn BRILLIANT, a gafodd hi ddim cwffio o gwbl. Bwww.

captain-phasma_8f4ea1d7

PHASMA! PHASMA! PHASMA!

Gyda ffilm mor enfawr â hon, mae torri o’r norm Hollywoodaidd gwrywaidd gwyn yn haws, bydde ti’n hoffi meddwl. O leia yn rhaglenni teledu franchise arall JJ Abrams, Star Trek, roedd cydbwysedd yn dod yn y dyfodol pell – hei os na allech chi ddychmygu cydraddoldeb yn y gofod pell, lle allech chi? Capteniaid, Chief medical officers, Comms Officers, Brenhinesau Borg hyd yn oed. Dydw i ddim yn gymwys i siarad am gydraddoldeb hiliol, ond unwaith eto, roedd pethe’n dechrau gwella yn TFA hefyd o be weles i.

So be dwi’n trio deud yn y pen draw? Deud bod The Force Awakens wedi deffro cariad ata’i eto at y byd yma mewn galaeth pel, bell i ffwrdd.

Ei fod wedi dod â menywod i fyd y Force. O’r diwedd ddeda i. Dorrodd Padme nghalon i braidd wrth fod yn arweinydd cenedl efo dim grym, agency na llais go iawn. Roedd Leia yn unig yn ei byd yn ôl yn yr 80au. Bydd dim ots gennai ddangos TFW i’n merch fach pan fydd hi ddigon hen a deud “Hei Lleucs, edrych, allet ti fod bebynnag ti isie… heblaw falle Sith. Bydden i ddim yn dwli ar hyna. A beth am i ni beidio croesi’r bont na chwaith ie?”

 

o.n. sbiwch be ffendies i tra’n casglu lluniau i’r post ma, hi hi!

source

 

Advertisements

One response to “Menywod a Lightsabers

  1. Hysbysiad cyfeirio: Dal heb weld Star Wars: The Force Awakens…? Gadewch i Rhodri a Miriam eich argyhoeddi y tro hwn! | gwyddonias

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Trydar @Llef

%d bloggers like this: