Ffeindio’r Claudia Mewnol

Ddes i ar draws brand newydd o golur wythnos yma, a dechre meddwl am y bobl dwi’n nabod sydd gan “look” pennodol.

Mae Claudia Winkleman wedi gweithio efo M&S i greu brand colur a gwallt sy’n helpu ni normos i gel ei ‘look’ hi. Rwan te, mae Tess Daly wedi gwneud hyn gyda M&S o’r blaen, ac mae rhaid deud bod rhen Claudia tipyn mwy agos atat na Tess, felly byddai brand hi yn cysylltu bach mwy efo fi na glamour Tess dyddie ma.

RC_07_T20_2951_NC_X_EC_0

Ond mae ‘look’ Claudia mor unigryw iddi, y “llwythi ar ben llwythi o eyeliner”, ffrinj enfawr a gwefusau golau. Eitha anodd cel getawê efo hwna rhwng Cylch Meithrin a gwaith! Mae’r range yn edrych yn ffab, ac yn llawn dychymyg, ac o’n i ffansi’r bocs anrheg, efo bonws Percy Pigs – ond allwn i wisgo gymaint â hyna o eyeliner?

(nodyn hanesyddol – gwirioni ar sut mae Geisha wedi defnyddio golosg a lliw coch ers canrifoedd i addasu siap eu llygaid, celf di colur cofiwch)

Wrth edrych am anrhegion Nadolig ar wefan Avon (last of the big spenders, sori deulu), ges i awydd trio eu “glimmersticks” gan eu bod ar gynnig – £4ish am liners efo enw eitha da, pam lai

Dwi di trio o’r blaen, ond gyda croen llygaid eitha trwm mae eyeliners yn gorod bod yn indestructable, a dwni’m os ydi’r look ‘Mam Bach nes di ddwyn crayons y plant?’ rili yn gweithio i fi chwaith.

Ges i dri – un kohl, un jel ac un porffor lliwgar. Mae’r lliw a’r kohl yn cadw’i lle yn dda, ond dwi’n credu bod y look ‘crio mewn storm’ ddaeth efo’r un jel yn eitha anodd i steilio allan! Mae’r gel stick yn mynd bobman, er yn lliw ddu bitsh da iawn, dio jyst ddim yn aros lle mae o fod (aka ddim hanner ffordd lawr dy wyneb). Mewn pecyn ar y ffordd nôl i Avon wrth imi deipio!

image

Maen na agwedd wych i wisgo liner os ri ddigon dewr – ti’n teimlo’n rocky a phwerys (gweler gwaith yr artist colur Charlotte Tilbury, mae hi’n obsesd efo llygaid cathod), a ti wastad yn barod i fynd allan efo slic o ddu a ffan o amrannau mascara gwych.

imageO ddweud hynny, dwi di wir ffendio bod linio tu mewn y llygad yn ffordd classy a llai “Twiggy mewn corwynt” o wisgo liner – ond yn ffordd eitha tricky os ti’m yn hoff o chware efo dy lygaid.

Yr unig celeb ges i rioed di cael fy nghamgymryd amdani oedd Princess Di, ac mi oedd hi’n byw mewn eyeliner – life goals newydd ydi ffendio tiara a gwisgo pwplwyth o eyeliner bob dydd felly.

 

Cwpl o shots ar hap (a heb liw aeliau, mwy ar hyn wedyn gan mod i wedi tyfu fyny yn y 90au lle oedd tynnu blew yn thing, difaru’n enaid wan) o’r glimmerstick porffor. Smart a mynd i nunlle, da iawn Avon!

image

Cynnil di hwn i’r gwaith, ond lliw piws da arno – sylwer, selffis yn y swyddfa, wps!

 

image

Cysglud, moi? Dyma’r gel liner yn dianc braidd ‘fyd.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Trydar @Llef

%d bloggers like this: