Swper sŵpercyflym: Gnocci Cig Moch a Pys

20121120-171512.jpg

Wel, dyma fi nôl yn blogio bwyd!

Wedi blwyddyn bach yn boncyrs oddiar y blog, dwi nôl yn blogio – ond bydd y bwyd yn hollol syml tro yma. Gyda babi bach yn y tŷ, da ni mond yn gallu coginio mewn bursts o 10 munud ar y tro!

Bydd yr amserlen 10 munud ar y tro hefyd yn esbonio fformatio a sgwennu gwael y blog hefyd 😉

Mae’r gnocci ma wedi esblygu o pasta pys a bacwn, swper ergency’ wedi genedigaeth y baban – gyda dim ond be oedd yn y ty.

Pecyn cyfan o gnocci
4 tafell o facwn mŵg (neu pancetta fyddai’n well, ond bwyd cwpwrdd oedd hwn!)
Pys gardd
Llwythi o olew olewydd extra virgin (i gael blas ffab)
Halen a pupur (pupur mâl o’r felin di’r boi)

I fod yn Nigella Expressaidd o gyflym, da ni’n berwi’r pys yn dŵr hallt y gnocci (hallt fel y môr medde Antonio Carluccio)

20121120-171525.jpg

Yna ffrio’r bacwn/pancetta mewn padell sych…

20121120-171533.jpg

A thaflu’r gnocci parod (3 munud max yn y dwr berw, angen i’r gnocci fod yn ddigon i gnoi!) mewn i’r badell a ffrio nes eu bod yn dechre crensian ar y tu allan…

20121120-171541.jpg

Y cyfan sy angen ydi tollti joch hael iawn o’r olew olewydd arno a’i weini gyda gwin gwyn (a parmesan os da chi awydd, ond dwi di ffendio blas y bacwn yn ddigon o umami i’r pryd!).

Gwirion o syml, ond guaranteed o’ch llenwi yn hapus ar nos Wener!

20121120-174237.jpg

Advertisements

One response to “Swper sŵpercyflym: Gnocci Cig Moch a Pys

  1. Edrych yn flasus! Ac rwy’n edrych ymlaen at yr amser pan gei di 10 munud i wneud yr un nesaf.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Trydar @Llef

%d bloggers like this: