Byffalo Wings – yr ymgais gartref

Ymddiheuriadau bod y rysaits yn araf *iawn* yn dod yn ddiweddar, ond byddai yma yn postio bob penwythnos rwan gobeithio.

Dwi’n golygu y post yma ar yr app WordPress, felly ymddiheuriadau eto os ddaw hyn allan fel rwtsh ‘fyd (!).

Felly, wedi i mi eich temtio chi gyda’r rysait y tro diwethaf, dyma ni’r ymgais ar greu y Buffalo Wings gartref. Bydden i’n awgrymu yn gryf i chi gael gafael ar botel o Louisiana Hot Sauce, achos ‘doedd y Cholula druan ddim fyny i’r dasg, ys dywed y Sais. Dim digon poeth a hallt, nodweddion penna’r saimffest yma…

Syml tu hwnt ydi paratoi’r cyw – ei dorri’n ddarnau llai (hen job afiach os nad oes ‘cleaver’ efo chi, rhaid mynd yn Ken Hom ar y sefyllfa!), a’i ysgwyd mewn blawd. Ddefnyddies i focs brechdanau mawr i ysgwyd, lot haws na bag plastig!

yr adenydd yn y blawd

yr adenydd yn syth o'r ffwrn

Sdici tu hwnt, anghofies i bod ffoil mo'r peth callaf i groen cyw iâr, wps.

Yr ychwanegyn gorau i gael efo’r byffalo wings yw saws caws glas, a chwrw ceirch Sam Smith wrth gwrs!

Cwwwwwl!

Y cyfan oedd angen neud wedi pobi’r cyw, oedd ychwanegu’r saws buffalo (cyfuniad o sawsiau poeth, finag gwyn a llwythi o fenyn mewn sosban) a bwyta efo’r bysedd.

Seimllyd? Youbetcha, nom!

Mi oedden nhw yn flasus, ond mi oedd angen y Louisiana hot sauce i gwblhau’r profiad UDA yn ddeche. Mi oedd y saws caws glas a’r cwrw ceirch yn berffaith gyda’r cyw seimllyd poeth a hallt. Allai mo’ch cynghori yn gryfach i roi tro ar wneud rhain eich hun fel treat bach nos Sul!

Byddwn ni nôl i rysaits Asia eto digon buan (ngwendid i!) ond mae na ymgais ar bobi cacen tro nesa… pobi, be nesa?!

7 responses to “Byffalo Wings – yr ymgais gartref

  1. Rioed di gweld y cwrw ceirch na o’r blaen. Be di’r gwahaniaeth rhwng Louisiana hot sauce a’r rhai Ancona scotch bonnet?

  2. Dwi’m ddigon o Hot sauce connoisseur a deud y gwir, ond mae’r stapleas o Cholula, Tabasco (rhy ddyfrllyd i fod yn sauce deche!) a Piri Piri Poeth Nandos yn achub aml i rysait efo ni. Dwi heb allu ffendio botel o’r Louisiana eto, ond wedi ei gael mewn bwytai – mae o dipyn poethach, ond yn bwysicach yn halltach na’r Cholula, a hwna sy’n dda efo’r cig sdici seimllyd.
    Driesi Dave’s insanity Hot sauce (http://www.chilliworld.com/SP6.asp?p_id=41) dechre’s flwyddyn, mae’r botel dal efo fi a dal yn llawn achos ges i mini asthma attach ar ei ôl, DANJER!

  3. Rhys

    Os ti’n licio Sam Smiths cymaint, dylet drio am y swydd yma! Lor o gwrw Sam Smiths i gael mewn poteli yn siop win Morgans, ardal Romilly/Canton. Ble ti’n ei brynnu, yn House of Frasier yn dre?

  4. Methu cofio enw’r lle, ond yr offi ar gornel 5 points Pontcanna, agos i’r Robin Hood, llond y lle fanno! Hefyd wrth GWRS fy hoff dafarn yn y ddinas (a’r byd i gyd yn grwn bron) di’r Waterguard yn y Bae. Di bygio’r gwr am wyliau i Tascaster blwyddyn nesa hyd yn oed 😉

  5. Edrych ymlaen i weld pa gacen fyddi di’n ei wneud nesaf!

  6. Morgans ydy’r lle ger y Robin Hood, ail siop gwrw ore Caerdydd ar ôl Discount Supemarket ar Whitchurch Road.

    Dw i ddim yn ffan huge o gwrw Sam Smiths (nac o ymddygiad Bully-boy y cwmni at fragby bychan), ond rhaid ti weithio ar y gŵr a mynd i aros yn Efrog (agos i Tadcaster). Rhieni fy ngwraig yn byw tu allan i Efrog, mae’n le gywch os chi’n licio cwrw go iawn, a mae’r tafarndai i gyd wedi cadw eu cymeriad, er yr holl ymwelwyr.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Trydar @Llef

%d bloggers like this: