Cawl Asiaidd Bob Dim

image


image

W, post arall, dwi’n neud yn dda! Dyma ni gawl hawdd a chyflym sy’n ffordd wych o gael llwyth o lysiau iachus mewn ffordd flasus. Mae hwn yn gyflymach (os nad yn well)  nac ordro cawl noodles o fwyty Siapanaidd Ichiban ar nos Sadwrn yma yng Nghaerdydd.

Mae hwn mwy fel “base” cawl os liciwch chi, yn sylfaen i chi ychwanegu llysiau a blasau iddo, ond un problem heno oedd nad oedd gennai corgimwch na powdr pum sbeis Cheiniaidd Allwch chi roi unrhyw gig sbar ynddo (tofu sbeislyd wedi grilio ar y George Foreman byddai’r gorau, rysait i’r dyfodol!).

Mae sbrincl o bowdr pum sbeis neu cymysgedd sbeis Cheiniaidd gwych Schwartz yn neud y gwahaniaeth yn hwn. Ymddiheuriadau am y lluniau gwael, yr HTC Wildfre yn siomedig braidd!

Cynhwysion i wneud digon fel swper ysgafn i ddau:

  • Un nyth o nwdls wy (dwy os da chi isie llond bol go iawn!)
  • Tecell o ddwr berw
  • Ciwb stoc cyw iâr / llysiau i’ch blas
  • Tair llwy fwrdd o saws pysgod Thai (hwn yn angenrheidiol, addo!)
  • Sblash hael iawn o Soy Sauce
  • Dash o saws Tabasco i’ch blas
  • Dash dda o saws Worcester
  • Dribl hael o olew sesame
  • Dash bach o finaig balsamic (i adio tamed o felysrwydd)
  • Sbrincl hael o bowdr pum sbeis
  • Llysiau o’ch dewis, rhai blasus sy’n berwi’n gyflym fel okra, pys, runner beans, tatws melys, bresych, brocoli, unrhywbeth i gael y 5-a-day!
  • Corgimwch (neu unrhyw gig wedi ei goginio)
  • Chili ffres i’ch blas

Rhowch y nyth(od) nwdls mewn sosban fach/ganolig (digon i ddal llond dwy fowlen o’r cawl, pryd un sosban ydi hwn!), crymblwch y ciwb stoc ar ben  nyth ac ychwanegu dwr berw, digon i orchuddio’r nyth. Cadwch y gwres yn eithaf uchel fel bod hwn yn ffrwtian trwy’r cyfnod coginio.

Ychwanegwch  llysiau i gyd fel y mynoch, bethbynnag sy’n berwi’n gyflym ac yng nhghefn yr oergell!

Ewch ati i ychwanegu’r blas, y saws pysgod (peidiwch bod ofn, mae hwn YN bwysig i’r blas!), y saws soy, y tabasco (neu hepgor os ddim yn ffan pethau poeth), yr olew sesame a’r balsamic.

Sbrinclwch y powdr pum sbeis yn hael ar y cawl.

Bydd y nwdls wedi berwi o fewn 5 munud, ychwanegwch y corgimwch a cadw’r gwres yn uchel am funud.

Gweinwch yn stemian (bydd hwn yn boeth o ran gwres) mewn bowlenni mawr gyda llwy a chopsticks (llwy i gael gweddilion y stoc blasus!) a chili ffres i gael bach mwy o liw a thân.

image

image

image

o.n. Oedd gen i olew Garlleg cartref ar ôl wedi’r Penne Alla Vodka, mae rhoi dribl dda o hwna ar ben hwn cyn gweini yn ffab, rysait hawdd, hawdd, cyflym ar gyfer olew garlleg i ddod yn fuan!

Advertisements

Cofnodwyd yn Bwyd, Food

Dolen Barhaol 4 Sylw

4 responses to “Cawl Asiaidd Bob Dim

  1. Am roi go ar hwn. Di ddim yn ddi-glem yny gegin o bell ffordd, jyst bod ddin ddiawledig o ddiog. Edrych yn do-able iawn a delfrydol ar gyfer llenwi bol ar bethau sbar sydd yn y gegin.

  2. Pob lwc Rhys! Fel ti wedi sylwi, mae’r lefel o gymlethdod ar y ryseitie ma yn isel iawn, a dwi isie gweld dy fersiwn di efo llysiau’r rhandir plis, bownd o fod yn wledd i’r llygaid hefyd!

  3. MIAM MIAM.

    Lyyyfio’r blog newydd SIons. Raid i fi neud chydig o gofnodion bara i Paned a Chacen an ga’i gyfla. Jams a rhewi cnydau yr ardd sydd wedi bod yn mynd a’n holl amser yn ddiweddar. Ma gennai dunelli o ffa dringo!

    • Www, rhewa’r ffa neu lluchia nhw mewn i’r cawl asiaidd bob dim! Diolch am y sylw, hon yn ffor dda o gofio be dwi wedi coginio am un peth!

      Edrych mlaen yn arw am posts pobi, dwi ddim siap ar fod yn bobydd yn anffodus 😉

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Trydar @Llef

%d bloggers like this: