Pobi Pasta Mexico

image


Amser am damed o fwyd llenwi bol eto, nid blog bwyd smart yw hwn mae arnai ofn, dim ond bwyd mawr blasus.

Fel welwch chi, mae na bach o draddodiad o arddangos bler ar y blog yma, Duges Delia mohonaf. Os ewch chi i weld y post wnaeth fy ysbrydoli i roi tro ar y cyfuniad yma  (o Wefan fwyd llawer rhy good-looking Gojee), welwch chi dipyn go lew o wahaniaeth rhwng y gwreiddol a hwn!

I wneud digon i fwydo llond ty ar ddiwrnod cneifio:

  • 300g o Gig eidion mâl, neu ewch hanner a hanner efo twrci  mâl sy’n lyfli hefyd
  • Pecyn o basta (400g, neu lai os da chi ddim am borthi cneifwyr etc.)
  • Dau winiwnsyn bach / un mawr, dim ond bod digon i roi blas winwnsllyd i’r pryd!
  • Dau bupur lliwgar (coch a melyn yn edrych yn lyfli)
  • Pedwar neu bump tomato mawr ffresh, neu’r rhai na sy’n sgwiji yn nhefn y rhewgell, wedi eu torri, ond didm rhy fân
  •  Lot o halen (sori, ond bydd ei angen! Dwi’n hoff o halen môr ar bopeth)
  • 4 Llwy fwrdd o Cumin mâl
  • 2 Llwy fwrdd o Cayenne (peidiwch bod ofn, y gwres yn diflannu yn y pryd, gadael blas cynnes braf)
  • 1 Llwy fwrdd o Paprika
  • Cwpl o lwyau o Cholula, y saws Mecsixanaidd gorau – ond doedd gen i didm nethiwr, dario!
  • Blocyn o gaws aeddfed, blasau cryf yw’r nôd fama
  • Tun o ffa Mecsicanaidd, cidnibêns, ffa llygad ddu, borlotti, ffa pob arferol os da chi’n licio blas melys, bethbynnag!
  • Corriander, tortillas a Sol i weini
Dull rhydd:
  1. Berwch y pasta mewn dwr tamed yn halltach na’r arfer, bydd angen y blas yna i roi balans i’r ffa bydd heb eu halltu.
  2. Ffriwch y winiwns, pupur a’r cig mewn padell fawr efo tamed o olew, ychwanegwch y sbeisys a’r cholula i’ch blas.
  3. Ychwanegwch y tun o ffa Mecsico a’r tomatos a ffrio’r cyfan am bum munud dda. Sbrinclwch hanner neu llwy de o halen (at eich blas) ar y gymysgedd hefyd (sori eto i’r pwysau gwaed!)
  4. Blaswch y gymysgedd, taflwch damed mwy o’r cumin neu’r Cayenne mewn os oes isie blas cryfach Mecsicanaidd neu wres.
  5. Cyfunwch y gymysgedd o gig a ffa gyda’r pasta mewn padell ffwrn fawr, tasgwch y caws bobman drosto, y mwy y gorau! Rhowch dan grill poeth nes bo’r caws yn ffrwtian a brownio.
  6. Gweinwch gyda sbrincls o gorriander ffresh, bowlen o tortilla chips (hawdd i’w gwneud o tortillas wedi torri a’u brwsio ag olew o dan y grill wedi’r gymysgedd adael eich ffwrn) a photel o Sol wrth gwrs.
Mae hwn yn handi ofnadwy i lenwi bol amser cinio yn y gwaith am ddiwrnodau lawer hefyd, gan modi wedi neud digon i gadw ni i fynd am wythnos, dyna fyddai’n neud!

image

image

Sori am y llun gwael, ro’s i’m hanner digon o gaws  ar ben y gymysgedd, bydd eisiau mwy na hyn arnoch!

Ta dah, ac yn amlwg ‘om nom nom’.

Mae gyda ni’r gwydrau Sol yma adre, mae nhw’n bril!

Gwraig y Ty…


Fel un sydd newydd briodi, mae’n amlwg bod angen i mi newid fy ffordd o fyw. Dim nosweithiau allan yn nhafarndai a bwytai ein hannwyl brifddinas, dim penwythnosau mewn gwestai moethus… na, rwan mae’n amser i ddilyn cyngor y Good Housekeeping Compendium c.1953.

Mae gwefan wych How to be a Retronaut yn casglu a chofnodi hen luniau, llufrau a darluniau, a bostion nhw gasglaid Ange Marsden o  luniau’r llyfr gwych yma heddiw. Rhag ofn i chi boeni, bydd dim un o ryseitiau llyfr yma ar y blog… yn enwedig y “black and white minstrel cakes”, os da chi ddigon dewr i ddarllen lawr i waelod y post gwreiddiol!

Fel hyn mae hi yn ty ni bob p’nawn Sul, yn amlwg (er, fel hyn dwi *acjiwali* yn meddwl am Elliw Paned a Chacen pan mae hi’n pobi)

Oedd y merched yn y teulu yn galw’n groch i mi roi Kenwood Chef ar y rhestr priodas. Dwi am sdicio efo’r ‘Cookworks’ whisk a dough hooks £12.99 arnai ofn, dim lle yn y gegin am y behemoth yma!

Ffys a ffwdan braidd, ond tlws tu hwnt.

Er i mi ddeud na ar y top na faswn i’n neud dim rysait o’r llyfr ma, mae’r cranc ‘ma’n edrych yn iymi… falle yn ail flwyddyn y blog, dwi’m yn credu allen i ffigro be i neud efo cranc elenni!

Cawl Asiaidd Bob Dim

image


image

W, post arall, dwi’n neud yn dda! Dyma ni gawl hawdd a chyflym sy’n ffordd wych o gael llwyth o lysiau iachus mewn ffordd flasus. Mae hwn yn gyflymach (os nad yn well)  nac ordro cawl noodles o fwyty Siapanaidd Ichiban ar nos Sadwrn yma yng Nghaerdydd.

Mae hwn mwy fel “base” cawl os liciwch chi, yn sylfaen i chi ychwanegu llysiau a blasau iddo, ond un problem heno oedd nad oedd gennai corgimwch na powdr pum sbeis Cheiniaidd Allwch chi roi unrhyw gig sbar ynddo (tofu sbeislyd wedi grilio ar y George Foreman byddai’r gorau, rysait i’r dyfodol!).

Mae sbrincl o bowdr pum sbeis neu cymysgedd sbeis Cheiniaidd gwych Schwartz yn neud y gwahaniaeth yn hwn. Ymddiheuriadau am y lluniau gwael, yr HTC Wildfre yn siomedig braidd!

Cynhwysion i wneud digon fel swper ysgafn i ddau:

  • Un nyth o nwdls wy (dwy os da chi isie llond bol go iawn!)
  • Tecell o ddwr berw
  • Ciwb stoc cyw iâr / llysiau i’ch blas
  • Tair llwy fwrdd o saws pysgod Thai (hwn yn angenrheidiol, addo!)
  • Sblash hael iawn o Soy Sauce
  • Dash o saws Tabasco i’ch blas
  • Dash dda o saws Worcester
  • Dribl hael o olew sesame
  • Dash bach o finaig balsamic (i adio tamed o felysrwydd)
  • Sbrincl hael o bowdr pum sbeis
  • Llysiau o’ch dewis, rhai blasus sy’n berwi’n gyflym fel okra, pys, runner beans, tatws melys, bresych, brocoli, unrhywbeth i gael y 5-a-day!
  • Corgimwch (neu unrhyw gig wedi ei goginio)
  • Chili ffres i’ch blas

Rhowch y nyth(od) nwdls mewn sosban fach/ganolig (digon i ddal llond dwy fowlen o’r cawl, pryd un sosban ydi hwn!), crymblwch y ciwb stoc ar ben  nyth ac ychwanegu dwr berw, digon i orchuddio’r nyth. Cadwch y gwres yn eithaf uchel fel bod hwn yn ffrwtian trwy’r cyfnod coginio.

Ychwanegwch  llysiau i gyd fel y mynoch, bethbynnag sy’n berwi’n gyflym ac yng nhghefn yr oergell!

Ewch ati i ychwanegu’r blas, y saws pysgod (peidiwch bod ofn, mae hwn YN bwysig i’r blas!), y saws soy, y tabasco (neu hepgor os ddim yn ffan pethau poeth), yr olew sesame a’r balsamic.

Sbrinclwch y powdr pum sbeis yn hael ar y cawl.

Bydd y nwdls wedi berwi o fewn 5 munud, ychwanegwch y corgimwch a cadw’r gwres yn uchel am funud.

Gweinwch yn stemian (bydd hwn yn boeth o ran gwres) mewn bowlenni mawr gyda llwy a chopsticks (llwy i gael gweddilion y stoc blasus!) a chili ffres i gael bach mwy o liw a thân.

image

image

image

o.n. Oedd gen i olew Garlleg cartref ar ôl wedi’r Penne Alla Vodka, mae rhoi dribl dda o hwna ar ben hwn cyn gweini yn ffab, rysait hawdd, hawdd, cyflym ar gyfer olew garlleg i ddod yn fuan!

Cofnodwyd yn Bwyd, Food

Dolen Barhaol 4 Sylw

Iam iam – Penne alla Vodka


image

Wel, wrth ddechre blog newydd fel hyn falle mod i’n trio bod braidd yn uchelgeisiol, ond mae hwn yn argoeli i fod falle mwy fel llyfr lloffion bwyd na’m byd. Dwi’m ym addo llenyddiaeth mawr, dim ond cofnodion o dameidiau blasus caiff eu creu yn ein gegin fach yn Grangetown.

Wedi cael ysbrydoliaeth gan Elliw draw ar flog gwych Paned a Chacen ydw i, a dwi am drio dechrau blog sawrus, bron mor flasus gobeithio!

Gan fod gennai ddant hallt, dwi am bostio pryd sy’ fod ei goginio mewn dwr sy’ “mor hallt â môr y canoldir”… pasta! Ie ie, diflas iawn, ond oedd y Penne alla Vodka yn hynod flasus, diolch i gwpl o tweaks i rysait ein harglwyddes Nigella.

Da ni off i Efrog Newydd mewn mis, a ddarganfyddais bod y Penne alla Vodka i *fod* yn fwyd cynhenid NYC, felly o’n i angen ei drio cyn mynd… da ni am fynd i Long Island hefyd, dwnim os dwi ddigon da i greu Clam chowder chwaith! Mae na lwyth o hufen, menyn ac olew yn y rysait penne yma, a mae’r vodka yn torri trwy’r brasder ac yn gweithio yn ardderchog efo’r tomatos.

Dwi’n ffan mawr o’r cocktail Mari Waedlyd (yn boeth iawn plis) felly ychwanegwch chilli ffresh neu sych fel da chi’n licio!

Cynhwysion, i lenwi boliau 2 a digon i ginio wedyn:

  • Winiwnsyn mawr wedi ei dorri yn fân
  • 2 lwy fwrdd o olew olewydd garlleg (hawdd i’w wneud os nad oes peth gyda
  • Digon o halen
  • 2 x tun o domatos
  • Llwy fwrdd o purée tomato
  • Glwg go dda o hufen dwbl
  • Pecyn / 500g o basta penne sych
  • Sblash dda o finaig balsamic
  • 125ml vodka (Absolut pupur yn wych am hyn yn ôl Nige!)
  • Nobyn bach o fenyn hallt
  • Parmesan a salad dosbarth canol (roced, cress dwr, rwbeth ffansi!) i weini
  1. Rhowch y pasta sych ferwi mewn dwr hallt, coginwch tan yn al dente (ei fod yn flasus, ond yn cwffio nôl wrth ei gnoi!).
  2. Tra bod y pasta yn berwi, rhowch y winiwns i goginio yn araf neis nes eu bod yn dryloyw a wedi melysu.
  3. Yna ychwanegu’r tomato o’r tun, y purée a’r finaig balsamic a’i adael i ffrwtian lawr (gallwch chi ychwanegu tamed o siwgr os da chi awydd). Ychwanegu’r hufen wedyn i greu saws iym.
  4. Drainio’r pasta wedyn ac ychwanegu’r menyn, mwy o’r olew olewydd garlleg a’r vodka (mwy neu lai i’ch blas, mwy imi mae o’n flas gwych!)
  5. Tolltwch y saws dros y pasta a sbrinclwch y parmesan i’ch blas.

Dwi’di cael hwn henoma gyda botel o Merlot Shiraz Ogio, neu mwynhewch efo unrhyw win coch efo digon o sbeis, joiwch!

image

image

Cofnodwyd yn Bwyd, Food

Dolen Barhaol 2 Sylw

Trydar @Llef

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn