Burgers Buan Cartref

Unwaith eto, dwi heb fod yn blogio ers sbel, ymddiheuriade! Ond, mae’r dyddiadur bwyd dal yma er mod i ddim ddigon dewr i gyhoeddi llawer, fel esiampl mae na drychineb pobi go iawn yn dod yn y post nesa!

Dyma nhw y burgers cartref, post anhymorol arnai ofn, ond blasus tu hwnt. Sori o flaen llaw i’r llysieuwyr sy’n darllen, sgipiwch y post yma.

Heno benderfynon ni hitio’r eidion cyn y wledd Nadolig. Mae hyn i gyd wedi imi wedi cael blas go iawn ar burgers di’w coginio yn eitha amrwd yn Gourmet Burger Kitchen  yn y brifddinas (mae na ddau gangen!). Mae’r rhai yn GBK yn ddrud, felly mae’r rhain yn symls symls a rhesymol iawn i’w gwneud efo briwgig o’r Co-Op neu o Will Lloyd ym Machynlleth wrth gwrs!

I fwydo 6 – yndi mae hi’n Ddolig!

  • 2 Bwys o friwgig (mins)
  • Un winionsyn mawr wedi’i falu yn y blender
  • 4 tafell o fara sych (hen stwff ddigon da), hefyd yn y blender
  • 2 wy
  • Persli ffres
  • Llwy fwrdd yr un o saej a theim
  • Llwy fwrdd o halen crensiog di’w falu (rhagor os oes blas) a llwyth o bupr du
  • Sblash dda iawn o Saws Caerwrangon (Worcester Sôs)
  • Fflêcs chilli os da chi awydd o’n boeth!

Cymysgwch popeth mewn bowlen fawr a joiwch y sgwelcho – yna cymryd llond dwrn a’i wasgu yn patty o fwrger (dwi di joio rhai tewion a’u coginio yn rare… iam iam!)

Ffriwch heb olew mewn padell boeth, yn fflipio’r burgers a theimlo fel eich bod yn America yn y 50au.

Gweinwch efo bap fara ffresh meddal, a relish – neu fel da ni di neud cyn ‘Dolig ma, efo chips pys, bara garlleg ac, am ryw reswm, selsig bach! Syml iawn, a bwyd bob dydd hawdd, hannerwch y cynwysion os na da chi’n bwydo llond trol o  deulu

 

Pastai Pysgod – neu Ffish Pai Traws

image

Yndw, dwi wedi bod yn araf tu hwnt yn blogio bwyd yn ddiweddar – tywydd od, Ffair Aeaf a digon o waith yn cadw fi oma!

Ar nodyn hunanol, sbiwch ar y caws hyfryd o ddrewllyd ma o Gaws Cenarth ges i yn y Ffair Aeaf – bydd hwn yn y ffwrn wedi’r twrci a gaiff ei fopio efo bara yn syth, iam!

image

Mae gen i cwpl o posts y popty ara (slow cooker) i chi i ddod, a gan ei fod ym 4-in-1 mae’n neud reis anhygoel a stemio llysiau fyd! Mae o fod i neud uwd, ond dio’m cystal â sosban ar y job yna.

Ond am rwan, dwi am rannu cyfrinach Ffish Pai Traws efo chi. Di hi’m yn gyfrinach imi i’w rhannu rili, mae hi’n berchen i un o’n ffrindiau pennaf, a chogydd mil gwaith gwell na mi, Anwen o Traws (digwydd bod!).

Yn dod o Drawsfynydd, yn amlwg oedd na llwythi o bysgod yn dod i’r ty (a na, doedden nhw *ddim* yn goleuo yn twllwch!), a mae Anw wedi perffeithio y pastai pysgod i ddefnyddio ffrwyth llafur sesiwn sgota.

Mi roedd y Co-Op (wedi rhoi fyny ar Asda a Tesco, behemoths!) yn gwerthu pecyn o samwn, hadoc a hake wedi’w ciwbio yn barod i fynd, felly neithiwr ebostiais Anw mewn pembleth pastai, a ges i’r ebost ffab ma nôl:

“Wel dyma sut dw i’n gwneud un:

  • Rhoi tatws sy’n mashio yn neis i ferwi.
  • Poachio unrhyw bysgodyn tisio mewn llefrith (heblaw prawns) am tua 5 munud, gan droi’r pysgod unwaith.
  • Tynnu nhw allan a flakio nhw mewn i’r ddysgl. Defnyddio’r llefrith i wneud roux. Roux yw menyn di toddi, cymysgu blawd fewn nes bod o’n bast.
  • Ychwanegu’r llefrith pob yn chydig tra’n cymysgu lot i wneud yn siwr bod dim lwmpiau.
  • Dylie ti ddiwedd hefo sauce neis trwchus. Ychwanega gaws cryf i hwn i wneud o’n gawslyd.
    Dw i’n arfer crymblo rhyw hanner veg stock cube fewn hefyd. (gol. Mae hwn yn ychwanegu jyst digon o halen i’r pryd, hefyd alle chi ddefnyddio saws pysgod Thai)
  • Tywallt y sauce dros y fish yn y dish. Os wyt ti am roi prawns, dyma’r amser i wneud.
  • Mashio’r tatws hefo menyn, hufen a chydig o whole grain mustard. Rhoi ar ben y fish.
  • Pwshio’r tatws lawr hefo fork a gwneud patrwm ar y top. Gratio caws ar y tatws.
  • Rhoi o yn y popty ar 200 degrees celcius am tua 20-25 mun. Lyfyyyyfli!
  • P.s ffyrdd o wneud y pei yn fwy o luxury – adio chydig o cream cheese ir roux a chydig o hufen yn y tatws”

image

Ac arglwydd mawr, ydi mae o’n lyfli! Es i ati ar gyngor Anw i roi caws yn y mash, a dail mint yn hytrach na’r mwstard graenus, ond mae hi wedi sôn bod modd rhoi unrhywbeth hoffe chi i roi blas ar y pryd.

Wnes i ychwanegu saws pysgod Thai i’r saws gwyn, achos allai’m cel digon o’r stwff… sori!

Gobeithio wnaiff hwn eich cadw’n gynnes pan ddaiff yr eira (plis plis plis, a rhew caled, dwidi syrffedu ar dywydd mwyn!).

Blogiau Bwyd arall – Y Shiksa yn y Gegin

Mae hi di bod yn dawel iawn ar yr ochr goginio efo ni yn ddiweddar – mae ‘na un neu ddau o bosts gennai ar y gweill am fwydydd yn y popty araf, gan ei bod hi wedi oeri o’r diwedd!  Yn y cyfamser, dwi wedi bod yn mwynhau darllen blogiau bwyd eraill, ac wedi dod o hyd i un am fwyd Iddewig gan anthropolegydd bwyd o’r Unol Daleithiau (swydd ddelfrydol falle?!).

Mae blog Tori Avey sef  The Shiksa in the Kitchen, yn un hynod o ddiddorol i’w ddarllen, nid yn unig i ddysgu am fwyd diwylliannol Iddewig, ond am y ffotograffiaeth – sbïwch ar y latkes (pice bach tatws) yma, iam!

Mae Tori yn sgwennu am draddodiadau bwydydd Iddewig dros y byd, tybed oes unrhyw un allan fanna yn gwybod os oes teuluoedd Iddewig-Gymreig wedi creu bwydydd kosher efo blas Cymreig?

Dwi GYMAINT o isie trio’r dorth pwmpen sbeisllyd ma hefyd, ond dwi yn ym myw methu a thynnu perfedd pwmpen yn iawn.  Mor flasus, ac ogle’r tymor oer yna trwy’r tŷ  i gyd…

Dwi newydd brynu sebon cawod o’r Body Shop efo hogle pwmpen sbeisllyd, dwi’n gweddïo mai felna byddai hon yn hogleuo!

Mae syniadaeth blog Tori yn hyfryd:

If you have found your way to my blog, you are probably somebody who loves food. That’s something we all share. A good meal can bring warmth and joy to anybody, no matter who you are or where you come from. I welcome all faiths and backgrounds to join me on my journey into the heart of food history. Our diversity makes us stronger.  :)

Hyfryd ‘de? Gobeithio ewch chi draw yno i fusnesa, dwi am chwilio am fwydydd bydd Mr Llef yn hapus i’w byta… credu fydde fo’n hapus tu hwnt gyda’r eidion melys yma, brisket byddai Mrs Walowitz yn hapus iawn o’i weini!

Photos courtesy of TheShiksa.com

Cacen Siocled Cracyrs

Dydw i ddim am dramgwyddo ar draed Paned a Chacen gyda’r post yma, ond tro yma dwi am fentro i fyd pob cacen… ‘danjerus’ ys dywed bobl Cwmderi

Daw’r rysait yma gan Mam, trwy wefan BBC Good Food, hon yw’r Ultimate Chocolate Cake os gredwch chi’r fath beth. Dwi’sho ei galw yn Gacen Cracyrs, gan bod dim gobaith gallu byta sleisen gyfan, mae hi mor gyfoethog, yrrith hi chi’n wirion.

Mae hon yn gacen “go to” ar gyfer unrhyw ddigwyddiad dathlu yn ein ty ni rwan – defnyddiol iawn os da chi awydd rwfath o Death by Chocolate hari kari ambell noswaith ‘fyd ;-)

Sbiwch, gwaith eisio a phopeth, anhygoel!

RHYBYDD: Mae’n annodd *iawn* peidio byta hon wrth fynd iddi efo’r coginio – taflwch y pwyntiau Weight Watchers ati ffwl pelt.
541 kcalories, protein 6g, carbohydrate 55g, fat 35 g, saturated fat 20g, fibre 2g, sugar 40g, salt 0.51 g

Cynhwysion:

200g o siocled tywyll cry , tua 60% cocoa
200g o fenyn wedi ei giwbio
1 tbsp coffi sydyn
85g blawd codi
85g blawd plaen (anghofies i am hyn a rhoi llwyth o flawd codi, wps! Mi oedd hi’n iawn serch hynny)
1⁄4 tsp bicarb
200g siwgr muscovado golau
200g  siwgr caster euraidd
25g powdr cocoa
3 wy canolig
75ml llaeth enwyn (darganfyddiad yr wythnos, mae’r stwff ma’n lyfli! Dad yn ei yfed fel diolch torri syched, a fi rwan!)
Cwrls siocled neu bethbynnag hoffech chi i’w addurno

Y Ganache

200g siocled tywyll blasus (Lindt yn lyfli ond drud)
284ml hufen dwpl tollti
2 tbsp siwgr caster euraidd

  1. Irwch dun cacen 20cm a rhoi papur saim ar y gwaelod (neu byddai un efo sbring yn neud y job. Cneswch y ffwrn Ffan i 140c neu ffwrn arferol i 160c. Torrwch 200g o’r siocled mewn i sosban drom, ychwanegwch y menyn a’r coffi sydyn wedi ei gymysgu gyda 125ml o ddŵr oer. Cneswch nes bod popeth wedi toddi’n neis, dim berwi na ffrio!
  2. Cymysgwch y ddau flawd, y bicarb, y siwgrau a’r cocoa mewn powlen fawr. Cymysgwch yr wyau a’r llaeth enwyn mewn powlen arall.
  3. Rwan mae angen tollti’r gymysgedd siocled o’r sosban a’r gymysgedd wyau mewn i’r fowlen blawd a chymysgu nes bod popeth fel melfed blasus… om nom. Yna tollti hwn i’r tun a’i bobi am awr a hanner. Gadwch hwn i oeri yn y tun ac yna ei roi ar rhesel (rack) i oeri.
  4. Mae’r rysáit gwreiddiol yn gofyn am dorri’r gacen yn dair haenen, ond o’n i wir mond yn gallu mentro dwy! Gwnewch y ganache wrth dorri’r siocled sydd ar ôl (200g) yn ddarnau mân. Tolltwch yr hufen mewn i sosban ac ychwanegu’r siwgr, a’i boethi yn agos i’r berw. Tynnwch o’r gwres ac yna ychwanegu’r siocled. Cymysgwch nes bod popeth wedi ei doddi yn llyfn. Om nom eto.
  5. Sticiwch yr haenau at ei gilydd gyda chydig o’r ganache, a defnyddio’r gweddill i dollti dros y gacen, yn ei dwtio efo cyllell palet bob hyn a hyn. Allwch chi aros i’r ganache galedu cyn addurno, neu sbrinclo cwrls siocled arni a gadael i’r ganache eu gludo yn eu lle.
Siocled o’r swisdir, dim Lindt yn y siop, dario!
Menyn a Siocled… be gei di well?
Y ganache yn dechre ffurfio
Dyma hi allan o’r ffwrn, mentres i mond ei llifio yn ei hanner unwaith, ddim digon o giamstar i neud dwywaith a chael tair haenen
Mae’r ganache yn dueddol i fynd BOBMAN wrth eisio, angen mwy o ymarfer greda i!
Do, fentres i drio eising, ddim yn wych, ond neud y job ‘de ;-)
Y Ben-blwyddferch yn dathlu, plus cacen
A’r diffeithwch a fu wedyn…
Ewn ni nôl i’r sawrus tro nesa, gobeithio bod y post yma heb godi gormod o chwant siocled arna chi… o do? Pwy sa’n meddwl ;-)

Byffalo Wings – yr ymgais gartref

Ymddiheuriadau bod y rysaits yn araf *iawn* yn dod yn ddiweddar, ond byddai yma yn postio bob penwythnos rwan gobeithio.

Dwi’n golygu y post yma ar yr app WordPress, felly ymddiheuriadau eto os ddaw hyn allan fel rwtsh ‘fyd (!).

Felly, wedi i mi eich temtio chi gyda’r rysait y tro diwethaf, dyma ni’r ymgais ar greu y Buffalo Wings gartref. Bydden i’n awgrymu yn gryf i chi gael gafael ar botel o Louisiana Hot Sauce, achos ‘doedd y Cholula druan ddim fyny i’r dasg, ys dywed y Sais. Dim digon poeth a hallt, nodweddion penna’r saimffest yma…

Syml tu hwnt ydi paratoi’r cyw – ei dorri’n ddarnau llai (hen job afiach os nad oes ‘cleaver’ efo chi, rhaid mynd yn Ken Hom ar y sefyllfa!), a’i ysgwyd mewn blawd. Ddefnyddies i focs brechdanau mawr i ysgwyd, lot haws na bag plastig!

yr adenydd yn y blawd

yr adenydd yn syth o'r ffwrn

Sdici tu hwnt, anghofies i bod ffoil mo'r peth callaf i groen cyw iâr, wps.

Yr ychwanegyn gorau i gael efo’r byffalo wings yw saws caws glas, a chwrw ceirch Sam Smith wrth gwrs!

Cwwwwwl!

Y cyfan oedd angen neud wedi pobi’r cyw, oedd ychwanegu’r saws buffalo (cyfuniad o sawsiau poeth, finag gwyn a llwythi o fenyn mewn sosban) a bwyta efo’r bysedd.

Seimllyd? Youbetcha, nom!

Mi oedden nhw yn flasus, ond mi oedd angen y Louisiana hot sauce i gwblhau’r profiad UDA yn ddeche. Mi oedd y saws caws glas a’r cwrw ceirch yn berffaith gyda’r cyw seimllyd poeth a hallt. Allai mo’ch cynghori yn gryfach i roi tro ar wneud rhain eich hun fel treat bach nos Sul!

Byddwn ni nôl i rysaits Asia eto digon buan (ngwendid i!) ond mae na ymgais ar bobi cacen tro nesa… pobi, be nesa?!

Sut i bilio garlleg mewn 10 eiliad

Fideo swper dwper gwych a defnyddiol o wefan foodies cwl SAVEUR.com. Fe ZOMGiais wrth ei wylio.

Os na di hwn yn newid eich ffordd o baratoi garlleg (*a* newid sut hogle sy’ ar eich bysedd) neith na’m byd!

How to Peel a Head of Garlic in Less Than 10 Seconds

 

 

Hedfan nôl efo Buffalo wings

Ymddiheuriadau am y tawelwch llethol ar y blog, dwi wedi bod off yn Efrog Newydd yn Mis Mêl-io efo Mr Llef.

This slideshow requires JavaScript.

Gafon ni gyfle i goginio allan chydig ar Long Island, seiclo yn Central park, trio am job newydd yn 30 Rock, rhoi’r stecen Tiwna fwyaf erioed ar y BBQ efo past Mojito (gwychbeth) a darganfod Cwrw Pwmpen – darganfyddiad diodol y siwrne. Gan nad oedd hops yn tyfu yn dda iawn yn y byd newydd ddefnyddiodd y coloneiddwyr cynnar y bwmpen i fragu – da iawn nhw, lyfli!

Hefyd, mewn bar Gwyddelig ar 47th Street ges i yr adenydd Buffalo gorau dwi erioed di blasu… wel y rhai cyntaf dwi rioed di blasu, ond dio’m bwys mi oedden nhw’n GORJYS!

Yn boeth a hallt a menynllyd, a POETH eto, mi oedd rhain yn fynydd o gig a braster a halen a sbeis, iam iam! Yn ôl yr hanes, cafodd y ‘Buffalo’ wings eu creu yng ngogledd talaith Efrog Newydd, yn yr Anchor Bar yn Buffalo.

Dim fy llun i di hwn, ond fel hyn yn UNION oedden nhw!

Rwan te, yn wahannol i’r arfer, dydw i heb goginio rhain eto, ond dwi am roi’r rysait dwi am ddefnyddio i chi yma, falle dwi am fynd am drumsticks tho, bach mwy o gig!

Ymddiheuriadau am y Saesneg, ond bydd popeth arall yn Gymraeg wedi i mi wneud nhw!

Cynhwysion:

36 chicken wing pieces (one wing makes 2 pieces – the “flat” and the “drum”)
1 tablespoon vegetable oil
1 tsp salt
1 cup all-purpose flour
1 1/2 tablespoons white vinegar
1/4 teaspoon cayenne pepper
1/8 teaspoon garlic powder
1/4 teaspoon Worcestershire sauce
1 teaspoon Tabasco sauce
1/4 teaspoon salt
6 tablespoons Louisiana hot sauce (Frank’s is the brand used in Buffalo)
6 tablespoons unsalted butter or margarine
celery sticks
blue cheese dressing (rysait i hwn ar wahan, wnai ei ychwanegu eto pan fyddai wedi gwneud rhain)

Paratoi:

Preheat oven to 425 degrees F.
If necessary, cut whole wings into two pieces. In a bowl toss the wings with the oil, and salt. Place into a large plastic shopping bag, and add the flour. Shake to coat evenly. Remove wings from the bag, shaking off excess flour, and spread out evenly on oiled foil-lined baking pan(s). Do not crowd. Bake for about 20 minutes, turn the wings over, and cook another 20 minutes, or until the wings are cooked through and browned.

While the wings are baking, mix all the ingredients for the sauce in a pan, and over low heat bring to a simmer, stirring occasionally, and then turn off.

After the wings are cooked, transfer to a large mixing bowl. Pour the sauce over the hot wings and toss with a spoon or spatula to completely coat.
These are always served with celery sticks and blue cheese dressing on the side.

(Dwi angen pob lwc posibl i beidio ffrwydro pen efo’r gwres yn rhain!)

Rwtsh lol – Risoto Taten Felys

Nodyn bach i ddechrau, dwi am eich hatgoffa nad ydw i’n galw’n hunan yn gogydd o fri, hec, dwi prin yn gallu neud cinio dy’ Sul heb rw greisis neu’i gilydd yn codi. Serch hynny, dwi yn gwirioni ar fwyd, a mae’r blog yma fel rw lyfr llofion o’r pethau na gofiai sut i’w gwneud o fewn yr wythnos. Felly, dyna pam welwch chi bo’r cynhwysion bach yn slapdash, a’r niferoedd o bethe yn amwys yma, sori, dechre ar y blogio bwyd ma ‘dwi!

Ta waeth, fues i am yr amser hiraf yn un oedd methu deall risotto yn lân… y troi y stoc, y gwin, y mwy o droi… cymlethdod! Ond, ddarllenwyr annwyl, os alla i neud risotto siwr ddim allwch chi neud un.

Mae hon yn un llyseiol, ond mae’r rysait yn un arall lle alli di daflu beth bynnag sy’n y ty iddo. Ffrio’r cig ar yr un amser â’r winiwns di’r ateb, a mae’r ffrwtian wedyn yn ei feddalu’n neis iawn. Dwi awydd trio hwn efo halloumi rhywben… iam iam!

  • 200gr Reis Risotto
  • 500ml o stoc llysiau neu cyw iar
  • gwydraid mawr o win (ac un i chi tra’n paratoi wrth gwrs)
  • Un clôf o arlleg (neu dau fach os di hwn ddim yn bryd dêt!)
  • Winiwnsen fawr wedi torri’n fân
  • taten felys (dwi’n ffan o gadw’r croen arni, ond i bobl ddiarth pliciwch hi!)
  • menyn go iawn (hallt)
  • olew olewydd
  • parmesan
  1. Tip da fyddai dilyn cyfarwyddiadau’ch bocs o reis arborio / risotto – bydd y niferoedd a’r pwysau yn gallach ar hwnw, ond dwi yn rhoi mwy o win ynddo gan amlaf, ychwanegu gangwaith mwy i’r blas.
  2. Rhowch lwmpyn hael (rw dwy lwy bwdin) o fenyn go iawn i doddi yn y badell, a joch o’r olew olewydd (olew garlleg os da chi’n teimlo’n wyllt ;) . Rhowch y winiwns i ffrio nes eu bod bron yn dryloyw. Ychwanegwch y garlleg pan mae’r winiwns bron a neud, gan fod y garlleg yn llosgi’n hawdd iawn!
  3. Ychwanegwch y reis a’i ffrio yntau nes ei fod wedi amsugno’r menyn ac yn sgleinio’n braf. Ychwanegwch y tatws melys a rhoi troiad nes eu bod wedi eu gorchuddio gan yr olew a’u ffrio am damed bach.
  4. Rhowch llond ladel o stoc yn y badell a dechre troi’r reis yn ddiog
  5. Unwaith mae’r reis wedi sugno hwna i gyd, tolltwch y gwin mewn a’i droi yn ddiog eto, dyma’r prd gore i gael gwydred o win tra’n coginio, achos mae na droi, a throi a throi!
  6. Unwaith eto, wedi i’r reis ymsugno’r gwin, llond ladel arall o stoc… a throi yn ara deg!
  7. Ladel arall, cerddoriaeth, llymed o w
    in, troi… etc.
  8. Dal i fynd nes bod y stoc wedi mynd, neu fod y reis wedi coginio fel da chi’n ei hoffi. Gratiwch / sbrinclwch y parmesan a’i gymysgu i’r reis, gadwch chydig ar ol wedyn i roi cyn gweini, i fod yn smart de!
Dwi wedi ei weini efo broccoli wedi stemio, esgus arall am y 5-y-dydd ‘na. A dyna ni, allwch chi ddefnyddio’r rysait yma efo unrhyw gig, neu lysiau, cig i’w ffrio ar y dechrau efo’r winiwns.    Plis anfonwch luniau o’ch cymysgedd chi @llef i fi gael driblo mwy!

Cofnod Cyflym – Pad Thai Amatur

image
Dyma dwist arall ar y cynhwysion “nwdls a chig”, fel y cawl, mae lot o hwn yn dibynnu ar be sy efo chi yn y Ty!
Un peth sy’n hollol angenrheidiol ydi’r nwdls reis fflat, rheina a’r past Thai sy’n neud hwn mymryn mwy “go-iawn”. Ymddiheuriadau bod y bwyd yn edrych yn fler, ond cofiwch, bwyd stryd Thai yw Pad Thai, a felly dio’m y peth tlysaf o ran gwedd!

Cynhwysion

  • Nwdls Reis fflat (dwnim os di siopau ledled Cymru yn di gwerthu, ond gewch chi nhw o’ch archfarchnad Cheiniaidd lleol)
  • Wy neu ddau, dibynnu faint o isie bwyd sy arnoch!
  • Cig neu tofu o’ch dewis, yn y rysait hwn dwi’n mynd am bopeth, hyd yn oed ham cartref!
  • Llwy bwdin (neu lai os da chi didm isie gwres!) o bâst cyri Thai o’ch dewis
  • winiwnsyn coch,
  • Llysiau, tatws melys, bresych coch, moron wedi gratio, chili i addurno
  • Olew sesame
  • Saws Soy
  • sudd lemwn
  • Saws pysgod Thai

Rhowch y nwdls reis i ferwi am 6 munud, digon i’w coginio, ond fel nad ydyn nhw’n rhy feddal.

Ffriwch y winiwns, y cig iar (os yn defnyddio corgimwch, gadewch rhain tan y diwedd un) y llysiau a’r past cyri nes eu bod wedi eu coginio ac yn un mysh o beth poeth a blasus.

Ychwanegwch y nwdls i’r gymysgedd, craciwch yr wy neu ddau a’i gymysgu yn araf i’r nwdls a chig fel bod yr wy yn caledu mewn chyncs.

Sbrinclwch y saws pysgod a saws soy, dwi’n rhoi tamed o fêl hefyd os dwi’n gweld bod isie mwy o felysrwydd, iam!

Cymysgwch yn araf a ffrio – ychwanegwch corgimwch iddo rwan i’w coginio am yr rhan olaf. Tip, mae chopstics lot gwell ar gyfer cymysgu nwdls na llwy, os allwch chi eu defnyddio.

Gweinwch efo’r chilis wedi torri’n fân a photel o Singha, neu win pefriog, a prawn  crackers cartref, iam-ach fyth!

o.n. wedi newid rhai o’r niferoedd gan i Richard yn y sylwadau gael amser poeth efo hwn, sori eto!

image


Salad Superfood Superhawdd

image

Post wltra cyflym borema, mae gen i risotto a gwledd Thai ar y cardiau dros y penwythnos, ond dyma’r rysait symlaf hyd hyn (haws na’r cawl hawdd, onest!).

Dwi wedi gweld fersiwn o hwn ar werth yn un o fy hoff fwytai yng Nghaerdydd, Carluccios, ond mae o’n ddrud am be ‘dio, a gallwch chi greu fersiwn llawer mwy blasus mewn chwinciad!

Hoffwn ddeud diolch i Mam am y rysait yma hefyd, mae o’n un o’i ‘stand by’s’ bwyd parti ardderchog hi.

Digon i fwydo dau efo bara neis fel starter, neu bedwar fel ychwanegyn i bryd mwy:

  • Pedair tomato mawr meddal
  • Winwnsen goch fawr (llai os da chi am gael llai o flas sbeis y winiwns!)
  • Eitha dipyn o fasil ffres, neu sych (os yn defnyddio sych, gadwch am 5 munud i amsugno’r olew cyn gweini)
  • Llwyth o olew olewydd gwyryf (hmm, cyfieithiad am extra virgin tybed?!)
  • Halen môr a chrensiwr (grinder)
  1. Gadewch y cynhwysion allan o’r oergell am dipyn cyn paratoi hwn. Mae’r salad yn debyg i, ac yn ardderchog efo gwin coch sbeislyd, a felly yn well ar dymheredd stafell!
  2. Torrwch y tomatos yn eu hanner ac yna eu gwasgu dros y sink i gael gwared â’r hadau. Gallwch chi ddefnyddio juicer lemon dwi’n siwr, ond dwylo sy ore a fwyaf o hwyl… *sblat!*. Yna torrwch yn ddarnau, ond ddim rhy fach, digon i lenwi fforc!
  3. Torrwch y winionsyn yn ddarnau hanner cylch (dwi di torri rhy fân yn y lluniau, mae angen i’r tomatos a’r winiwns fod bach yn annibynol.)
  4. Dodwch y winiwns a thomatos mewn powlen fflat. Taenwch digon o’r olew olewydd blasus i orchuddio pob darn ond heb ei foddi! Dylai fod digon i orchuddio, ond dim ar ôl yng ngwaelod y fowlen.
  5. Rhwygwch y basil os yn defnyddio ffresh, yn ddarnau eitha mân, eith o’n bellach wedyn! Os yn defnyddio basil sych, sbrinclwch dipyn go lew arno, bydd isie mwy i gael y blas.
  6. Job hwyl rwan, efo’ch dwylo (glan, wrth gwrs), rhwtiwch popeth at ei gilydd fel ei fod yn cyfuno yn drilliw hyfryd. Bonws ydi dwylo meddal neis o’r olew olewydd!

Dwi’n rhoi crensiad bach o halen môr mân arno hefyd, ond dwi bach yn obsesd efo halen, mae o’n tynnu blas y tomato yn hyfryd.

O.N Mae’r winiwnsyn mawr yna efo twll yn y canol yn ganyniad i’m arbrofi aflwyddianus  ar y BBQ!

 

Trydar @Llef

Follow

Get every new post delivered to your Inbox.

Join 869 other followers